Cyflwyniad

Gyda mwy na phymtheng mlynedd o brofiad, Chwarae Teg yw'r brif asiantaeth broffesiynol ar gyfer datblygu economaidd menywod yng Nghymru.

Yr ydym yn hyrwyddo addysg, entrepreneuriaeth, cydbwysedd gwaith a bywyd a gweithio hyblyg, gan helpu menywod i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyfrannu'n llawn a chyson i'r economi.

line

Gweithio Hyblyg – yw e’n gweithio?  Gwelwch y drafodaeth

Ar 20 Gorffennaf, cymerodd Trish Chalk, Cyfarwyddydd Masnachol Chwarae Teg, ran ar banel Cwestiwn ac Ateb rhith ar wefan Gyrfaoedd y Guardian, lle atebodd gwestiynau gan y darllenwyr ar weithio hyblyg.  Gallwch ddarllen y trawsgrifiad, yma.

line

Atebion Chwarae Teg Link

Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth ar gyfer y Gweithle, yn darparu atebion ar gyfer pobl a llefydd

Mae Atebion Chwarae Teg yn cynnal cyrsiau wedi eu trefnu o flaen llaw mewn Sgiliau Rheolaeth, Hyfforddi a Mentora, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb, Gweithio Hyblyg & o Bell a Chydbwyso Bywyd a Gwaith. Rydym hefyd yn cynnig atebion hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi eu teilwro er mwyn ateb gofynion penodol eich busnes, a gan ein bod yn sefydliad di-elw rydych yn elwa o gael darparydd diduedd gyda dros 17 mlynedd o brofiad mewn datrys problemau yn y gweithle, yn cyflwyno’r atebion hyn i chi. Gwyliwch Atebion Chwarae Teg »

Rhif Elusen Gofrestredig: 1084466

Chwarae Teg News

12/08/10 Cylchlythyr Haf Chwarae Teg

Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Chwarae Teg bellach ar-lein. Cliciwch yma i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am Atebion Chwarae Teg a phrosiect Cenedl Hyblyg ac i weld beth sy’n ysbrydoli Siân Lloyd. Mae copïau o rifynnau blaneorol ar gael yma hefyd.

20/06/10 Ail-lansio Atebion Chwarae Teg

Ail-lansiwyd ein rhaglen hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i acolâd mawr nôl ym mis Mehefin, gyda’r cyntaf o’n rhaglenni seminar wedi eu diweddaru sy’n cynorthwyo cyflogwyr o fusnesau mawr a bach ar draws Cymru.