Pam ymuno â Chwarae Teg?

Drwy ymuno â Chwarae Teg, yn ogystal â chefnogi mudiad unigryw, byddwch hefyd yn cael mynediad at gyfoeth o wybodaeth, profiad ac ymchwil a all eich helpu chi a'ch sefydliad i gyflawni eich llawn botensial:
  • Helpwch eich sefydliad i ddefnyddio arferion gwaith arloesol drwy ein cylchlythyrau cynhwysfawr, ein gwefan a'n hadnoddau i aelodau er mwyn bodloni gofynion polisi.
  • Byddwch yn rhan o'n rhwydweithiau Cymru gyfan poblogaidd a dathlwch eich straeon am lwyddiant arferion gorau gydag aelodau tebyg a dysgu gan siaradwyr blaenllaw yn y sector.
  • Cewch eich ysgogi a'ch ysbrydoli gan ein gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori. Bydd cyrsiau ysgogol a chyngor wedi'i deilwra'n arbennig yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi lwyddo mewn economi fodern. Mae gostyngiadau ar gael i'n haelodau.
  • Drwy weithio â ni, mae menywod yn gallu dysgu sgiliau newydd, dechrau busnesau newydd a chynyddu eu cyfranogaeth ymhlith uwch reolwyr a phrosesau llunio penderfyniadau ar lefel uchel.

Dysgwch fwy am ymuno â'r unig fudiad Cymru-gyfan sy'n ymroddedig i ddatblygu arloesi gwirioneddol yn y gweithle i bawb. Gallwch gofrestru ar-lein, lawrlwytho ein llyfryn aelodaeth, neu ein ffonio ni ar 029 2047 8900.