Agile Nation
Nod y prosiect
Nod y prosiect Cenedl Hyblyg yw hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y ddau ryw, cefnogi dyrchafiad mewn gyrfaoedd a chyfrannu at leihau'r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw.
Gweithgarwch y Prosiect
Bydd y prosiect yn cefnogi cynhyrchedd a chynnydd mewn cyflogaeth drwy ddefnyddio arferion gweithlu modern a hyrwyddo gweithio hyblyg. Rhoddir anogaeth a chymorth i fenywod gyflawni eu llawn botensial yn y gweithlu drwy raglen o hyfforddiant a mentora, cynllun lwfans hyfforddi a chyfleoedd rhan-amser o safon. Rhoddir cymorth i gyflogwyr er mwyn eu hannog i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle a gweithredu cydbwysedd bywyd/gwaith a hyblygrwydd yn y gweithle drwy fapio sefydliadol, hwyluso TGCh er mwyn caniatáu gweithio o bell a gwobrwyo cyflogwyr sy'n esiampl i eraill. Bydd y prosiect yn cydweithio ag addysgwyr ac ymgynghorwyr i fynd i'r afael â stereoteipio yn ôl rhyw, a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Mae Cenedl Hyblyg yn brosiect arloesol a fydd yn creu Rhith Ganolfan Ragoriaeth er mwyn cronni cyfalaf deallusol a darparu cyngor arferion gorau i lunwyr polisi, cyflogwyr, addysgwyr ac unigolion ynghylch materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb rhwng y ddau ryw a gweithio hyblyg. Bydd y Rhith Ganolfan Ragoriaeth yn cynnig porth rhyngweithiol a fydd yn hwyluso unigolion i weithio o bell a bydd yn gweithredu fel siop un-stop ar gyfer materion yn ymwneud â'r ddau ryw, cydraddoldeb mewn cyflogaeth a gweithio hyblyg/cydbwyso bywyd a gwaith yng Nghymru. Dros oes y prosiect, bydd rhaglenni ymchwil yn cyfrannu at fanc gwybodaeth y ganolfan ragoriaeth ac yn mapio effaith y cynlluniau a dargedir gan y prosiect.
Canlyniadau
Bydd y prosiect Cenedl Hyblyg yn helpu 2790 o fenywod i brofi cynnydd mewn cyflogaeth a 610 o gyflogwyr i ganolbwyntio at gynlluniau cydraddoldeb ac amrywiaeth a gweithio hyblyg, ac fe'i cyflwynir fesul cymal ar draws yr ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru. Bydd y Rhith Ganolfan Ragoriaeth yn gyfoeth o arferion gorau yng Nghymru

