Chwarae Teg - Torri Tir Newydd i Fenywod a'r Gweithlu

Gyda mwy na phymtheg mlynedd o brofiad, Chwarae Teg yw'r brif asiantaeth broffesiynol ym maes datblygiad economaidd menywod yng Nghymru. Rydym yn hyrwyddo addysg, entrepreneuriaeth, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio hyblyg, gan helpu menywod i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud cyfraniad llawn a chyson yn yr economi.

Fodd bynnag, mae mwy i Chwarae Teg na dim ond chwalu rhwystrau. Mae gwrando ar anghenion busnesau ac unigolion a chreu cysylltiadau effeithiol gyda sefydliadau partner yn ein helpu i symbylu arferion gwaith arloesol:

  • Yn y cartref ac yn y gweithle, mae menywod ledled Cymru yn anelu'n uwch gyda chyngor gan staff medrus a phrofiadol Chwarae Teg.
  • Mae ein cymorth ymarferol yng nghyswllt gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn cynnig manteision sylweddol i unrhyw fusnes, drwy helpu cyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar botensial eu hased mwyaf gwerthfawr, sef gweithlu talentog ac amrywiol.
  • Mae ein gweithdai a'n digwyddiadau hyfforddi ac ymgynghori hwylus yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant menywod unigol ac at ganlyniadau gwaelodlin cyflogwyr.
  • Drwy weithio gyda ni, gall menywod ddysgu sgiliau newydd, cychwyn busnesau newydd a chymryd mwy o ran mewn penderfyniadau lefel uchel ac uwch reoli.
  • Rydym yn defnyddio ymchwil arloesol, polisi cyfredol ac arfer gorau i gynhyrchu buddiannau ariannol a busnes i gyflogwyr.

Gan fod meithrin cysylltiadau cadarn wrth wraidd gwaith Chwarae Teg, byddwn yn datblygu partneriaethau ysbrydoledig gyda chyflogwyr, cyrff dylanwadol a sefydliadau