Atebion Chwarae Teg
Datrys eich anghenion am hyfforddiant ac ymgynghoriaeth
Dros yr 17 mlynedd diwethaf, mae Chwarae Teg wedi darparu hyfforddiant ymarferol gyda’r nod o wneud y gorau o botensial eich gweithlu. Mae'r blynyddoedd o arbenigedd sydd gennym yn sicrhau bod ein cyrsiau, ein seminarau a'n gweithdai'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau mewn ffyrdd sy'n creu canlyniadau effeithiol.
Mae Atebion Chwarae Teg yn cynnig detholiad o gyrsiau a seminarau cyfoes, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth. Am ein bod yn gweithio’n ddyddiol ym maes cydraddoldeb, gweithio hyblyg, amrywiaeth a datblygu gyrfa, mae'r holl gyrsiau a seminarau â'u bys ar bwls y diweddaraf o ran deddfwriaeth a thechnegau rheoli. Fel elusen gofrestredig, mae ein cyrsiau'n gweithio er lles eich busnes, nid er mwyn elw . Trwy ddewis Atebion Chwarae Teg gallwch fod yn sicr eich bod yn derbyn hyfforddiant arbenigol ac yn cefnogi chwarae teg yn y gweithlu ar yr un pryd.
Mae modd darparu'r cyrsiau a seminarau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Cefnogaeth ariannol - gallai fod modd i BBaChau cymwys gael cefnogaeth ariannol drwy Raglen Datblygu'r Gweithlu, am wybodaeth bellach, cysylltwch a Alana Vaughan Parry atebion@chwaraeteg.com, neu galwch 029 2047 8916

