Pensiwn
Mae Chwarae Teg yn cyfrannu'r hyn sy'n cyfateb i 6% i gynllun pensiwn budd-ddeiliad Norwich Union. Wrth gwrs, gall unigolion wneud mwy o gyfraniadau personol hefyd.

Oriau
Llawn-amser - 35 awr yr wythnos - Llun i ddydd Gwener
Rhan-amser - Mae gan Chwarae Teg aelodau staff yn gweithio amrywiaeth o oriau rhan-amser a hyblyg.

Cydbwysedd Gwaith-Bywyd
Mae gan Chwarae Teg bolisïau hael ar absenoldeb rhieni, absenoldeb gofalwyr ac absenoldeb tosturiol.  Yr ydym yn annog ein holl weithwyr i gydbwyso eu bywydau gwaith a chartref a byddwn yn edrych yn gadarnhaol ar unrhyw geisiadau i ailstrwythuro wythnos waith yr unigolyn er mwyn cyrraedd y nod hwn. Mae gennym Ddatganiad o Fwriad Cydbwysedd Gwaith-Bywyd sydd yn datgan ein hymrwymiad i gefnogi Cydbwysedd Gwaith-Bywyd i'n holl staff.  Hefyd, mae gennym bolisïau yn ymdrin â gweithio o gartref, oriau cywasgedig ac ystod o gynlluniau absenoldeb arbennig. Mae gennym nifer o batrymau gweithio hyblyg.

Gwyliau
Mae gan staff Chwarae Teg hawl i 280 awr o amser gwyliau i ffwrdd ym mhob ‘blwyddyn wyliau' (pro rata i staff rhan-amser ac ym mlynyddoedd cyntaf ac olaf cyflogaeth).  Mae hyn yn cyfateb i 40 diwrnod, gan gynnwys diwrnodau statudol a gwyliau banc, bob blwyddyn.

Adolygu Perfformiad a Datblygu Personol
Bydd unigolion yn cymryd rhan mewn rhaglen Adolygu Perfformiad sydd yn cynnwys nodi ac ymdrin ag anghenion datblygu personol a hyfforddi.

Yr iaith Gymraeg
Mae Chwarae Teg wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg. Caiff aelodau staff sydd am ddysgu Cymraeg eu hannog a'u cefnogi.