Canllawiau Trafodaeth Cam-wrth-Gam

Trefnu eich trafodaeth...

Cynnal eich trafodaeth, Adrodd eich Trafodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl?n â chynnal eich trafodaeth eich hun cysylltwch â  john.jackson@chwaraeteg.com

Cam 1: Trefnu eich trafodaeth

Llongyfarchiadau ar benderfynu cynnal trafodaeth, a’r newyddion da yw bod trafodaeth yn syml i’w threfnu, dyma’r camau allweddol wrth ddod a’ch trafodaeth i fodolaeth:

  1. Penderfynwch pwy fydd eich hwylusydd
  2. Penderfynwch pwy fydd yn cymryd nodiadau 
  3. Penderfynwch y nifer o fenywod y dymunwch i gymryd rhan yn eich trafodaeth.  Hoffwn awgrymu os nad oes gan eich hwylusydd brofiad o gynnal trafodaeth cadwch y gr?p yn fach a chael 4 person yn cymryd rhan yn ogystal â’r hwylusydd a’r person sy’n cymryd nodiadau.  Gyda hwylusydd profiadol awgrymwn fwyafrif o 8 person.  
  4. Penderfynwch ar ddyddiad ac amser ar gyfer eich trafodaeth.  Gall hyn fod unrhyw  ddiwrnod rhwng Dydd Llun 8fed a Dydd Gwener 12fed Mawrth ar unrhyw amser o’r dydd.  Ni ddylai’r drafodaeth bara mwy nag awr.
  5. Dewiswch leoliad. Dimond ystafell gyda bwrdd a chadeiriau sydd ei angen a gall hyn fod eich cegin eich hun hyd yn oed. Os ydych yn trefnu trafodaeth yn eich gweithle gall eich cyflogwr gynnig ystafell i’w defnyddio, neu gall eich cyngor lleol, llyfrgell neu ganolfannau cymdeithasol er enghraifft fod yn hapus i gynnig lle i gynnal eich trafodaeth.
  6. Unwaith yr ydych wedi penderfynu ar y dyddiad a lleoliad ar gyfer eich trafodaeth gallwch gychwyn gwahodd menywod i gymryd rhan.  Gall hyn fod yn gr?p o’ch ffrindiau, cydweithwyr, aelodau o unrhyw gr?p neu gymdeithas yr ydych yn perthyn iddynt.  Byddwch yn ei chael yn haws gwahodd menywod yr ydych yn eu nabod i ymuno â chi ar gyfer y drafodaeth.
  7. Gall trafodaethau gael eu cynnal yn Gymraeg neu Saesneg. 
  8. Un wythnos cyn eich trafodaeth mae’n werth ail wirio eich trefniadau a hefyd cysylltu gyda phawb sy’n cymryd rhan i sicrhau eu bod dal yn medru dod.  Gallwch hefyd gymryd y cyfle yma i e-bostio neu anfon manylion y pynciau trafod atynt.  Trwy gael y wybodaeth yma o flaen llaw mae ganddynt y cyfle i feddwl amdanynt, a fydd yn caniatáu’r drafodaeth i lifo ar y diwrnod.  

Cam 2: Cynnal eich trafodaeth

  1. Ar y diwrnod ceisiwch gyrraedd y lleoliad hanner awr cyn i’r drafodaeth ddechrau, ac os yn bosib gosodwch bapur a phensiliau ar gyfer pob person o amgylch y bwrdd.
  2. Dylai’r hwylusydd eistedd wrth y bwrdd yn ganolog gyda’r person sy’n cymryd nodiadau yn eistedd wrth ei h/ymyl. 
  3. Ar ôl i bawb gyrraedd ac eistedd byddwch yn barod i ddechrau eich trafodaeth.
  4. Cychwynnwch trwy esbonio sut bydd fformat y drafodaeth yn cael ei chynnal (gweler y Nodiadau Hwylusydd sydd arwahan) ac yna cyflwynwch y pynciau.  
  5. Pan fod yr holl bynciau wedi cael eu trafod a datganiadau cytûn ar gyfer pob pwnc bydd eich trafodaeth wedi ei chwblhau.  Ar y pwynt yma diolchwch y gr?p a’u hysbysu eich bod yn mynd i anfon y datganiadau at Chwarae Teg er mwyn eu cynnwys ar y wefan.

Cam 3:    Adrodd eich Trafodaeth    

  1. Gall eich datganiadau cytûn  gael eu hanfon at john.jackson@chwaraeteg.com
  2. Cofiwch gynnwys manylion eich trafodaeth gan gynnwys:
  3. Ble a phryd y cynhaliwyd eich trafodaeth 
  4. Pwy gymerodd ran  
  5. Unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r drafodaeth 
  6. Unrhyw luniau digidol yr ydych wedi eu tynnu yn ystod y drafodaeth. Nodwch, os ydych chi’n cymryd lluniau gyda’r bwriad o’i anfon ymlaen at Chwarae Teg i’w cynnwys ar y wefan, gofynnwn eich bod yn cael caniatâd pawb cyn gwneud hynny. Nodwch yn eich e-bost eich bod wedi derbyn caniatâd pawb sy’n cymryd rhan yn y drafodaeth i anfon y delweddau atom i’w cynnwys ar y wefan.  
  7. Gallwch hefyd weld y datganiadau cytûn gan grwpiau trafod eraill ar wefan Chwarae Teg.

Cyfeiriwch hefyd at:

  • Y ddogfen Nodiadau Hwylusydd gan fod hwn yn darparu canllaw defnyddiol ar sut i reoli'r drafodaeth ei hun.
  • Y ddogfen Pynciau Trafod, y gallwch ei rannu i’ch cyfranogwyr o flaen eich trafodaeth.

Yn olaf...

Mwynhewch eich trafodaeth!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl?n â chynnal eich trafodaeth eich hun cysylltwch â  john.jackson@chwaraeteg.com