Trafodaethau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Chwarae Teg

Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2010...

mae Chwarae Teg wedi trefnu cynnal 3 trafodaeth lle yr ydym yn dod â grwpiau o fenywod ynghyd yng Ngogledd, Gorllewin a De Cymru i drafod 3 phwnc sydd wedi eu penderfynu o flaen llaw.

Rydym hefyd yn gwahodd menywod ymhobman i ymgynnull er mwyn cynnal eu trafodaethau eu hun.  Yr oll sydd angen ei wneud yw clicio yma i lawr lwytho'r dogfennau angenrheidiol i gynnal eich trafodaeth eich hun.

Ar ddiwedd pob trafodaeth gall datganiadau cytûn ar gyfer pob pwnc gael eu he-bostio yn ôl atom.  Byddwn yn ychwanegu eich datganiadau i’r adran Trafodaeth lle y gallwch weld sylwadau grwpiau menywod eraill sydd wedi cynnal eu trafodaethau eu hunan.

Bydd Chwarae Teg hefyd yn adolygu'r datganiadau cytûn ac yn eu defnyddio i’n helpu i ffurfio ein meddylfryd polisi.

Mae rhedeg eich trafodaeth eich hun yn rhwydd ac rydym wedi casglu pob dim sydd eu hangen arnoch yn ein canllawiau 4 cam.  Cliciwch yma i ddechrau..