20 Ionawr 2005

Cychwyn Newydd: Dvana'n Mynd Ar-lein

Pan ddyfarnwyd doethuriaeth i Katherine Bean, 35 oed o Fae Colwyn, am ei sgiliau mewn peirianneg electronig 5 mlynedd yn ôl, profodd y gall menywod gael gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant fu gynt yn denu dynion yn bennaf.

Fel arbenigwraig adnabyddus yn ei maes, mae Dr. Bean yn awr yn lansio ei busnes dylunio gwe a chefnogi TG ei hun, ‘Dvana Consulting', gyda'r nod o alluogi busnesau bychain a chanolig i dyfu mewn economi sydd yn gynyddol fyd-eang a chysylltiedig.

Meddai, "Pan ddechreuais i astudio am fy ngradd gyntaf ddiwedd yr 80au, dim ond 10% ar y cwrs oedd yn fenywod. Mae pobl yn cymryd yn ganiataol nad yw menywod yn gyffredinol eisiau dilyn gyrfaoedd mewn cyfrifiaduron ac electroneg."

Astudiaethau achos llawn  Cychwyn Newydd - Dvana'n Mynd Ar-lein

4 Tachwedd 2004

Gyrfa Newydd yn Cyfrif i Famau

Pan ddaw'n fater o gyfuno gyrfa lwyddiannus gyda bywyd teulu, mae'r ddwy fam, Joanna Payne a Cynthia Golder wedi cael y patrwm iawn.

Cyfarfu'r ddwy, sy'n dod o orllewin Cymru, tra'r oeddent yn astudio cyfrifeg yn y coleg. Maent yn awr yn cyflenwi eu huchelgais ac yn rhedeg eu busnes eu hunain gyda help yr asiantaeth datblygu economaidd i fenywod, Chwarae Teg.

Mae Joanna, 27, yn fam sengl i blentyn ac yn byw yn Aberteifi. Meddai "Pan oeddwn i yn yr ysgol, doedd gen i erioed fawr o ddiddordeb mewn dysgu, a gadewais yn 16 oed. Pan wahanais oddi wrth fy ngwr rai blynyddoedd yn ôl, penderfynais ei bod yn bryd i mi lunio dyfodol i mi fy hun a'm merch."

Astudiaethau achos llawn  Gyrfa Newydd yn Cyfrif i Famau