Angela yn saernïo gyrfa newydd mewn gwaith coed
Mae mam sengl i ddau wedi dangos y gall menywod fynd ar y blaen mewn swyddi fu yn draddodiadol yn rhai dynion trwy hyfforddi i fod yn saer.
Ymunodd Angela ar gwrs oedd yn cael ei redeg gan y cwmni hyfforddi o Borth Talbot, Unit 19 a phrosiect Ready SET Go Chwarae Teg, sydd wedi ei anelu at helpu menywod i gael hyfforddiant a gyrfaoedd mewn sectorau heb fod yn rhai traddodiadol.
Canmolwyd Ready SET Go am amlygu'r hyn mae'r DU yn ei wneud i greu cymdeithas fwy cyfartal a theg ym Mlwyddyn Ewropeaidd Cyfle Cyfartal i Bawb.
Astudiaethau achos llawn Angela yn saernïo gyrfa newydd mewn gwaith coed
Cwrs arloesol yn Abertawe yn helpu mam i diwnio i waith newydd
Mae cwrs yn Abertawe sydd â'r nod o helpu menywod i ddilyn gyrfaoedd heb fod yn rhai traddodiadol wedi ei ganmol am amlygu'r hyn mae'r DU yn ei wneud i greu cymdeithas decach ym Mlwyddyn Ewropeaidd Cyfle Cyfartal i Bawb.
Gyda'r trosi i ddigidol ar y gweill ym myd teledu, mae Angela Rees, sy'n fam i ddau o blant, eisoes wedi gofalu ei bod ar y blaen trwy ddysgu'r sgiliau i helpu miloedd o gartrefi yn ne Cymru i symud o analog i ddigidol.
Penderfynodd y fam sengl i fechgyn o efeilliaid drio ei llaw mewn diwydiant lle mae dynion amlycaf fel ffordd o ddychwelyd i waith amser-llawn, gan ymuno â chwrs blasu mewn Gosod Lloerenni ac Erialau Digidol yng Ngholeg Abertawe fel rhan o fenter Ready SET Go Chwarae Teg, a gyllidwyd yn rhannol gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop, Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Astudiaethau achos llawn Cwrs arloesol yn Abertawe yn helpu mam i diwnio i waith newydd


