Manteision Aelodaeth

  • Pecyn ymuno sy'n llawn gwybodaeth ac yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am Chwarae Teg
  • Safle ar-lein unigryw i aelodau yn http www.chwaraeteg.com
  • Y wybodaeth ddiweddaraf drwy gyfrwng adroddiadau, ymchwil a diweddariadau rheolaidd
  • Cyfleoedd i hyrwyddo ac arddangos llwyddiannau eich sefydliad yng nghyd-destun arferion gorau, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio, astudiaethau achos a chylchlythyrau
  • Mynediad at banel arbenigol o gynghorwyr wedi'u hyfforddi, gan gynnwys arweiniad arbennig ar faterion yn ymwneud â Pholisïau Cymru
  • Gostyngiadau sylweddol i aelodau ar wasanaethau hyfforddi ac ymgynghori
  • Cyfle i gymryd rhan weithredol mewn ymchwil ac ymgynghoriadau ar y cyd
  • Cynrychiolaeth o'r radd flaenaf, dylanwadu ar lunwyr polisïau ac ymarferwyr ym maes datblygu economaidd
Hyrwyddwr Corfforaethol

Os yw eich mudiad yn arbennig o ymroddedig i hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, yna gallech elwa ar ein categori aelodaeth Hyrwyddwr Corfforaethol. Mae hyrwyddwyr corfforaethol Chwarae Teg yn mwynhau'r holl fanteision arferol sydd ynghlwm wrth fod yn aelod, ond maent yn ategu eu harferion gwaith llwyddiannus ymhellach drwy dderbyn 1 diwrnod o gyngor ymgynghoriaeth rhad ac am ddim a disgownt pellach o 30% oddi ar hyfforddiant a chyrsiau i'r dyfodol.