Trafodaethau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Chwarae Teg

Canllawiau ar gynnal eich trafodaeth eich hun

Cefndir...

Ers 1911 mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi cael ei gydnabod gan ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu ar draws y byd.   Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun yn cael ei gynnal ar 8 Mawrth, serch hynny mae digwyddiadau yn cymryd lle ar y diwrnod ei hun yn ogystal â’r diwrnodau sy’n arwain i fyny ac yn dilyn yr 8fed.

Nod y digwyddiadau yma yw i ddathlu llwyddiannau menywod ac i dynnu sylw at yr angen am gynnydd parhaol er mwyn helpu i sicrhau parhad y gwaith tuag at ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol menywod.  Eleni, er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Chwarae Teg fel y brif asiantaeth yng Nghymru sy’n gweithio dros ddatblygiad economaidd yng Nghymru yn trefnu cyfres o drafodaethau.

Yn ogystal, ac er mwyn helpu i roi cyfle i fenywod ar draws Cymru i ymuno yn y drafodaeth rydym wedi paratoi'r canllawiau hyn ar gyfer rhedeg eich trafodaeth eich hunan.

Pam cael trafodaeth?

Trwy gynnal eich trafodaeth eich hun byddwch yn medru ymuno â menywod ar draws y byd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac ar yr un pryd trwy drafod pynciau dadleuol byddwch yn medru anfon sylwadau eich grŵp at Chwarae Teg.  

Mae hyn yn bwysig iawn gan y byddwn yn defnyddio’r darganfyddiadau o’r holl drafodaethau sy’n cymryd lle i helpu Chwarae Teg ddatblygu ein polisïau.  Mae’r polisïau hyn yn rhan o’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda dylanwadwyr allweddol o’r meysydd gwleidyddol, busnes, academaidd a chymdeithasol i helpu i sicrhau fod y materion sy’n effeithio menywod fwyaf yn cael eu cadw ar yr agenda.

Felly trwy gynnal trafodaeth byddwch yn helpu i siapio dyfodol ein gwaith a helpu i sicrhau fod menywod Cymru yn cael y cyfle i gael mewnbwn wrth ddatblygu'r agenda ar gyfer materion menywod yng Nghymru.

Canllawiau Cynnal Trafodaeth

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau yma yn cynnig arweiniad cam wrth gam i gynnal trafodaeth ac yn anelu i fod yn becyn defnyddiol i unrhywun sy’n gobeithio cynnal trafodaeth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Chwarae Teg eu hunain.

Wrth gael pawb yn cynnal eu trafodaethau yn yr un ffordd, pan fyddwch yn anfon eich darganfyddiadau at Chwarae Teg bydd yn sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei chasglu yn effeithiol a’i chynnwys yn ein gwaith polisi.  

Y fformat drafodaeth yr ydym wedi ei dewis yw’r Drafodaeth Persbectif. Mae’r math yma o drafodaeth yn syml a hawdd i’w threfnu a’i chynnal.

Mae’n cynnwys grŵp o fenywod yn eistedd o amgylch bwrdd yn trafod eu barn ar bynciau sydd wedi eu diffinio o flaen llaw.

Mae’r drafodaeth yn cael ei chynnal gan hwylusydd a’i swydd ef/hi yw i gyflwyno pob pwnc, yn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i ddweud ei dweud a chadw’r ddadl i redeg ar amser.  Bydd yr hwylusydd hefyd yn gweithio gyda’r grŵp i ddatblygu datganiad cytûn ar bob pwnc.  Bydd y datganiad yn crynhoi barn y grŵp cyfan ar y pwnc penodol.

Mae gan bob grŵp trafod rhywun sy’n cymryd nodiadau ar gyfer nodi’r pwyntiau allweddol sy’n cael eu gwneud yn ystod y drafodaeth.  Mae hyn yn bwysig gan y bydd yr hwylusydd ar y diwrnod yn cyfeirio at y nodiadau hyn wrth weithio gyda’r grŵp i benderfynu ar y datganiadau cytûn.

Ar ddiwedd y drafodaeth bydd gennych un datganiad cytûn ar gyfer pob pwnc trafod sydd wedi eu darparu gan Chwarae Teg.  Yr oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw anfon eich datganiadau at Chwarae Teg, byddwn yn ei lan lwytho i’n gwefan fel y gallwch weld sut y mae eich datganiad yn cymharu gyda rhai gan grwpiau trafod eraill, bydd manylion sut i wneud hyn yn cael ei roi ar ddiwedd y canllawiau yma.