CYTGORD
Chwarae Teg oedd yn rheoli CYTGORD, prosiect partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor, y Comisiwn Cyfle Cyfartal a TUC Cymru. Nod y prosiect, a ariannwyd dan y rhaglen EQUAL, oedd ymchwilio i'r Bwlch Cyflog rhwng y Ddau Ryw yng Nghymru. Cynhaliwyd digwyddiad yng Nghaerdydd yn 2005 a lansiodd ddechrau gweithgareddau traws-genedlaethol gyda phartneriaid Ewropeaidd o Ffindir, Sbaen ac Awstria. Yn dilyn 18 mis o ymchwil, penllanw'r prosiect oedd cynhyrchu llawlyfr a CD ROM ‘Bridging the Gap Together' wedi'i anelu at gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, addysgwyr, mudiadau ac unigolion er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw yng Nghymru. Roedd hefyd yn tynnu sylw at yr arferion da a oedd eisoes ar waith, yr agweddau arloesol y tu allan i Gymru a oedd yn llwyddo yn ogystal ag yn cynnig cyngor ymarferol i'r rheini sy'n gallu gwneud gwahaniaeth.


