Diwrnod Hyfforddi Adeiladu gyda Hyder - “Two-Faced” Networking™
12th October 2010
Mae dau enw gwych wedi uno er mwyn cyflwyno digwyddiad hyfforddi arall na ddylid ei golli. Mae Bernie Jackson ac Atebion Chwarae Teg wedi cyfuno hyfforddiant canmoladwy “Two-Faced” NetworkingTM Bernie a hyfforddiant profedig Chwarae Teg ar fagu hyder i greu “Two-Faced” Networking™- Adeiladu gyda Hyder" - diwrnod hyfforddi unigryw wedi ei anelu at drawsffurfio perfformiad rhwydweithio.
Mae rhwydweithio yn cael ei gydnabod fel yr hysbysebu newydd ac mae’n golygu llawer mwy na dim ond mynychu digwyddiad a siarad am eich busnes. Mae Bernie Jackson yn deall hyn yn llwyr ac wedi bod yn cyflwyno rhaglen unigryw i arddangos sut y gall rhwydweithwyr ganmol eu “wyneb”’ busnes a’i “wyneb” personol, wrth wneud cysylltiad â chlientau potensial, partneriaid cyfeireb a phartneriaid cyd-fentrau, yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Ar yr un pryd, mae Atebion Chwarae Teg yn arbenigwyr ar roi i unigolion o bob cefndir bywyd yr hwb i’w hyder a bydd y cwrs cyffrous hwn yn ymdrin â beth mae hyder yn ei olygu i chi, sut i herio credoau sefydliedig, tybiaethau ac agweddau a datblygu eich sgiliau cyflwyno personol eich hunain trwy ymarfer meddylfryd positif, iaith gorfforol a chyfathrebu pendant.
![]()
Am ragor o wybodaeth ewch i www.chwaraeteg.com/solutions ac i archebu lle cysylltwch â atebion@chwaraeteg.com neu ffoniwch 02920 478900.
Further details:
Teitl - Seminar 2 Faced Networking with Confidence
Dyddiad - 12 Hydref
Cyf Cwrs - 2FN121010
Lleoliad - Caerdydd
Pris cynrychiolydd - £140 cynnwys TAW neu 110 cynnwys TAW
(Early bird discount if booked before 25th September)

