Trafodaethau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Chwarae Teg

Nodiadau Hwylusydd

Engraifft o Drafodaeth:

Lawrlwytho Dogfen Word | Lawrlwytho Dogfen Acrobat PDF

Yma cymrwch fod y drafodaeth yn para awr a hanner ac yn dechrau am 10am.

Clock icon10:00am

Gyda’r cyfranogwyr yn eistedd ac yn barod i ddechrau galwch y gr?p i drefn a dechrau gyda chyflwyniad byr.  Er enghraifft gallwch ddechrau trwy ddweud:   

“Bore da a diolch am gymryd rhan yn Nhrafodaeth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Chwarae Teg.  Cyn i ni ddechrau, mi af o amgylch y bwrdd yn eich holi i gyflwyno eich hunan i’r gr?p, trwy ddweud wrthym pwy ydych chi ac o le yr ydych yn dod.”

Wedi’r cyflwyniadau gall yr hwylusydd ddechrau’r drafodaeth trwy esbonio sut y bydd yn cael ei redeg a beth fydd yr allbwn. Er enghraifft gallwch ddweud:

“Bore yma byddwn yn trafod 3 phwnc sydd wedi cael eu darparu gan Chwarae Teg, a’r nod fydd i weld beth yw barn pob unigolyn ar y pynciau hyn.  Gan mae trafodaeth yw hon mae’n bwysig pwysleisio nad oes barnau cywir nac anghywir gan fod barn pawb yn cael eu croesawu yn gyfartal.

Mi fyddaf yn cyflwyno pob pwnc ac wrth i ni drafod y pwnc, bydd ein hysgrifennydd yn cymryd nodiadau o’r pethau allweddol yr ydym yn eu dweud.  Yna tuag at ddiwedd ein hamser ar bob pwnc byddaf yn ystyried eich sylwadau yn llawn wrth baratoi datganiad byr sy’n crynhoi barn ein gr?p ar y pwnc.

Byddaf yn darllen hwn yn ôl i chi a’r adeg hynny bydd gan bawb gyfle i roi awgrymiadau ar newidiadau y maent hwy yn credu y dylid ei wneud i’r datganiad.

Bydd y datganiadau yma yn cael eu e-bostio at Chwarae Teg a fydd yn casglu datganiadau gan bob un o’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ar draws Cymru i’w cynorthwyo i ddatblygu eu polisïau a rhoi arweiniad i’r gwaith y maent yn ei wneud wrth gefnogi datblygiad economaidd i fenywod ar draws y wlad.”

Ar y pwynt hwn, holwch os oes gan unrhyw un cwestiwn.  Os nad oes, yna rydych yn barod i ddechrau’r drafodaeth trwy gyflwyno’r pwnc cyntaf.

Clock icon10:10am    

Er enghraifft, gallwch ddweud:

“Mae ein pwnc cyntaf y bore yma yn ymwneud a dylanwad menywod yn yr economi. A yw menywod yn gwario llawer ond ar gyflogau bach?  Yn fras mae hyn yn cyffwrdd a thri maes, menywod fel enillwyr incwm, menywod sy’n ddarparwyr incwm a menywod fel defnyddwyr.  Felly ar sail y pwnc hwn sut yn eich barn chi y mae menywod yn datblygu yn nhermau eu rôl o fewn yr economi?  Ar y brig, nid ydym erioed wedi cael Canghellor y Trysorlys benywaidd!”

Yn ystod y drafodaeth, os oes angen, byddwch yn barod i gyflwyno rhagor o gwestiynau er mwyn cadw’r drafodaeth i redeg, er enghraifft:

Comments bubble

"Ydych chi’n credu fod gan fenywod lais cyfartal yn y penderfyniadau prynu yn eu cartrefi?"

Comments bubble

"O’ch profiad chi ydych chi’n meddwl fod menywod yn meddwl mwy am lle y maent yn gwario eu harian?  Ydych chi’n meddwl fod menywod yn fwy tebygol o wario o fewn eu cymuned leol?"

Comments bubble

"Mae’r rhyngrwyd yn ffynhonnell wych ar gyfer bargeinion ac yn aml yn gallu eich helpu i arbed llawer o arian, wrth ystyried eich hunan a’ch ffrindiau ydych chi’n meddwl fod menywod yn fwy neu lai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer ymchwil a phrynu nwyddau?"

Comments bubble

"Beth ydych chi’n meddwl yw’r materion mwyaf sylweddol i fenywod yn yr economi?"

Comments bubble

"A yw unrhyw un yn gwybod os ydynt yn ennill llai na’u cydweithwyr gwrywaidd?"

Comments bubble

"Pa weithred yr ydych yn credu y dylid ei gwneud er mwyn cau'r bwlch cyflog ar sail rhyw?"

Comments bubble

"Ydych chi’n meddwl fod yna rwystrau sy’n benodol i fenywod sy’n atal menywod rhag bod yn ddarparwyr incwm?"

Comments bubble

"Sut dylid annog menywod i ddechrau eu busnesau eu hunan?"

Comments bubble

"A oes angen cefnogaeth ychwanegol ar fenywod?  Pwy ddylai ddarparu’r gefnogaeth hynny?"

Comments bubble

"Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau gwario yn eich cartref?"

Comments bubble

"Ydych chi’n hapus ar sut y mae hysbysebu yn targedi menywod fel defnyddwyr?"

Comments bubble

Yn ystod y drafodaeth dylai’r ysgrifennydd fod yn cymryd nodiadau allweddol i gofnodi beth sy’n cael ei ddweud gan y gr?p.

Fel hwylusydd dylech chi fod yn cymryd nodiadau byr i’w defnyddio wrth baratoi'r datganiad cytûn...

Clock icon10:30am   

Dechreuwch gloi’r drafodaeth ar y pwnc hwn ac esbonio fod gennych nawr 5 munud i baratoi datganiad cytûn.

Dyma engraifft o ddatganiad cytûn ar gyfer y pwnc hwn sy’n rhoi syniad i chi o hyd y datganiad. Serch hynny, nid yw’r cynnwys yn gyfarwyddiadol, dylai eich datganiad chi adlewyrchu’n gyfan gwbl y farn a gafodd ei dangos yn eich trafodaeth.

Engraifft o Ddatganiad Cytûn:

Fel gr?p hoffwn weld gwybodaeth bellach yn cael ei darparu i annog menywod i sefydlu eu busnesau eu hunan,  buaswn hefyd eisiau gweld gweithredu pellach gan y sector breifat i helpu i gau'r bwlch cyflog, a buaswn yn hoffi petai hysbysebwyr yn dibynnu llai ar stereoteipio menywod.

Clock icon10:35am   

Symud ymlaen at y ail bwnc... Er enghraifft gallwch ddweud:

“Mae ein pwnc nesaf yn edrych ar rôl menywod fel gofalwyr.  Man cychwyn da fyddai meddwl am gyfrifoldebau gofal, sydd, wrth ystyried fod gennym gymdeithas sy’n prysur heneiddio, yn bwysig iawn i drafod.   Sut ydych chi’n teimlo fod cyfrifoldebau gofal yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd yn y gymuned?”

Yn ystod y drafodaeth, os oes angen, byddwch yn barod i gyflwyno rhagor o gwestiynau er mwyn cadw’r drafodaeth i redeg, er enghraifft:

Text Bubble

"A oes gan unrhyw un profiad uniongyrchol o ofalu am berthynas?"

Text Bubble

"Pwy ddylai fod yn gyfrifol am ofalu am bobl?"

Text Bubble

"Pa lefel o gefnogaeth yr ydych chi’n meddwl dylai gael ei darparu gan y Wladwriaeth Les?"

Text Bubble

"A yw cyfrifoldebau gofal yn cael effaith ar ddatblygiad gyrfaol menywod?"

Text Bubble

"Pa gamau sydd angen eu cymryd i wneud darpariaeth gofal yn fwy effeithiol a llai trawiadol? Beth ddylai menywod wneud? Eu teuluoedd? Cyflogwyr? Awdurdodau Lleol? A Llywodraeth?"

Clock icon11:00am   

Dechreuwch gloi’r drafodaeth ar y pwnc hwn ac esbonio fod gennych nawr 5 munud i baratoi datganiad cytûn.

Unwaith mae’r datganiad wedi ei baratoi a’i gytuno gallwch symud ymlaen at y trydydd pwnc.

Clock icon11:05am   

Symudwch ymlaen ar y trydydd pwnc... Er enghraifft gallwch ddweud:

“Mae ein pwnc olaf yn edrych ar rôl menywod mewn cynaladwyiaeth amgylcheddol.  Rydym yn mynd i drafod ffyrdd yr ydych chi’n meddwl y dylai menywod ddylanwadu ar yr agenda gwyrdd. Mae pawb yn poeni yn gynyddol am yr amgylchedd ac rydym i gyd yn cael ein hannog i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.  Beth ydych chi’n meddwl y dylai hyn olygu i fenywod?”

Yn ystod y drafodaeth, os oes angen, byddwch yn barod i gyflwyno rhagor o gwestiynau er mwyn cadw’r drafodaeth i redeg, er enghraifft:

Comment bubble

"Ydych chi’n meddwl fod menywod yn pryderu mwy am yr amgylchedd?"

Comments bubble

"Yn eich cartref chi a fyddech chi’n ystyried eich hun i fod yr hyrwyddwr gwyrdd?"

Comment bubble

"Gallwch chi feddwl am unrhyw ffordd y gall menywod ddylanwadu ar yr agenda gwyrdd?"

Comments bubble

"Gallwch chi feddwl am unrhyw ffordd y gall menywod ddylanwadu ar yr agenda gwyrdd?"

Comments bubble

"Beth mae bod yn wyrdd yn ei olygu i chi?"

Comments bubble

"Beth yw’ch gofidion mwyaf am yr amgylchedd?"

Comment bubble

Clock icon11:20am   

Dechreuwch gloi’r drafodaeth ar y pwnc hwn ac esbonio fod gennych nawr 5 munud i baratoi datganiad cytûn.

Unwaith y mae’r datganiad wedi ei baratoi a’i gytuno gallwch gloi'r drafodaeth.

Clock icon11:25am   

I gau’r drafodaeth efallai y dymunwch ddweud er enghraifft:

“Nawr mae gennym ein tri datganiad cytûn, bydd y rhain yn cael eu hanfon ymlaen at Chwarae Teg ar gyfer eu cynnwys ar ei gwefan ac i’w tîm i’w rhoi gyda datganiadau’r trafodaethau eraill sydd wedi bod yn digwydd o amgylch Cymru.  Wrth eu casglu at ei gilydd, golyga hyn ein bod wedi chwarae ein rhan wrth helpu i osod yr agenda gwleidyddol ar gyfer dyrchafu menywod yng Nghymru.

Sydd yn fy meddwl i yn ffordd wych i ni gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.  Felly diolch yn fawr i chi am ddod ac am gymryd rhan yn y drafodaeth, rwyf wedi dysgu llawer heddiw a gobeithio eich bod chi wedi hefyd. Diolch yn fawr.”

Yn olaf, sicrhewch fod y tri datganiad cytûn wedi eu cofnodi ac yna anfonwch hwy at john.jackson@chwaraeteg.com