Ymgynghori

Ein dull o weithredu

Mae Chwarae Teg yn gweithredu ymgynghoriad mewnol effeithiol ac ymarferol, yn darparu datrysiadau cydbwyso bywyd a gwaith, gweithio hyblyg, cydraddoldeb & amrywioldeb ac adnoddau dynol i sefydliadau ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. 

Os yw eich sefydliad yn arwain y ffordd, neu dim ond yn dechrau ar eich taith, ein dull o weithredu yw i weithio gyda chi a'ch timoedd i drefnu eich strategaethau a phrosesau i ennill y buddion busnes mwyaf posib.  Rydym yn gwybod fod pob sefydliad yn gwahaniaethu yn eu hanghenion a'i hamcanion sy'n golygu felly eu bod yn unigryw, rhai o'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig yw:

  • Adolygiadau sefydliadol
  • Archwiliadau Gweithio Hyblyg  
  • Gwerthuso swydd  
  • Cynnal prosiect peilot o brosiectau gweithio hyblyg
  • Cyngor unigol a thîm  
  • Strategaethau cyfathrebu  
  • Rheolaeth newid  
  • Cefnogaeth a chyngor ar newid diwylliannol  

Gan fod ein gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghorol yn rhan o sefydliad ehangach Chwarae Teg mae ein dull o weithio yn elwa gan ein bod yn medru tynnu yn helaeth ar yr adnoddau a phrofiadau deallusol yr ydym wedi eu datblygu dros yr 17 mlynedd diwethaf.  Mae hyn yn cynnwys ymgymryd ag a chomisiynu gwaith ymchwil mewn i arferion yn y gweithle, cyflawni prosiectau ar raddfa fawr, adolygu a datblygu polisi. Mae'r rhain i gyd wedi ennill parch i Chwarae Teg a'u gwneud yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth arbenigol ar arferion y gweithle. 

Yn bwysicaf oll, gan ein bod yn elusen, rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio ein harbenigedd i ddarparu datrysiadau diduedd sy'n rhoi buddion hir dymor i fusnesau, sefydliadau ac i'w gweithwyr.

Yn fwy na hynny, nid ydym yn gweithredu fel ail-werthwr datrysiadau "oddi ar y silff".

Ein hymgynghorwyr

 

Mae ein hymgynghorwyr yn brofiadol mewn cynllunio adnoddau dynol ac yn arbenigwyr yn eu meysydd.  Maent wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau, yn datblygu strategaethau busnes arloesol, gweithredu amrywiaeth polisi ac arwain mewn arfer gorau trwy sicrhau'r safon uchaf o arbenigedd bob amser.

Wedi ei deilwro

Rydym yn gweithio'n agos â chi i gynllunio agenda wedi ei deilwro sy'n cyrraedd union anghenion ac amcanion eich sefydliad.