Cyflwyniad i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Rhywiau

Daeth Dyletswydd Cydraddoldeb y Rhywiau i rym yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2007 ac yn sicr, dyma'r newid mwyaf mewn deddfwriaeth cydraddoldeb y rhywiau ers deng mlynedd ar hugain, ers cyflwyno'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Rhywiau yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus yn hybu cydraddoldeb rhwng dynion a menywod ac yn gwneud i ffwrdd â chamwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Dyma gyfle i reolwyr y sector cyhoeddus ddangos eu bod yn hybu cydraddoldeb rhwng dynion a menywod ac yn edrych ar y ffordd y mae polisïau a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a'u cyflwyno.  

Y peth pwysicaf yn y ddyletswydd yw cydnabod yr angen am agwedd newydd at gael cydraddoldeb yn y gweithle, sy'n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau fod cydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi ei wreiddio'n gadarn mewn cynllunio strategol.

Bydd agwedd pob sefydliad yn amrywio yn ôl eu swyddogaethau a'u gwasanaethau hwy, ond rhaid i bob awdurdod cyhoeddus ystyried y ddyletswydd i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch Ganllawiau'r Comisiwn Cyfle Cyfartal

Consulting stakeholders on gender equality 

Developing gender equality objectives and scheme

First steps on gender equality duty guidance 

Meeting the gender duty for transsexual staff 

Meeting the gender duty in employment guidance