Sut y gallwch chi elwa?
Darganfod Cydbwysedd Gwaith: Safbwynt Gweithiwr
Pa fath o fanteision alla'i ddisgwyl?
Camau at Well Cydbwysedd: Ystyried eich Dewisiadau
Darganfod Cydbwysedd Gwaith: Safbwynt Gweithiwr
Cydbwysedd gwaith-bywyd a gweithio hyblyg yw'r cynhwysyn coll yn aml yn ein man gwaith. Os ydych yn rhan o farchnad brysur y byd heddiw, yna mae'n siwr y byddwch yn gyfarwydd â'r oriau hwy, y straen gynyddol a'r baich gwaith trwm. Ac eto, mae gweithio'n hyblyg yn aml yn fater o ddod o hyd i atebion i broblemau cyffredin: y tri diwrnod yr wythnos sydd arnoch eu hangen i weithio i ffwrdd o'r brif swyddfa er mwyn codi eich plant o'r ysgol, yr oriau gostyngol fyddai o help gwirioneddol i chi wrth ofalu am berthynas oedrannus am gyfnod byr.
Yma yn Chwarae Teg, yr ydym wedi gweithio gyda chyflogwyr a gweithwyr unigol i gael y cydbwysedd yn iawn. Profodd Sarah Atkinson, o dîm Gwasanaethau Personol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fanteision ateb gweithio-o-bell wedi ei lunio'n iawn:
‘Mae gweithio o gartref 2 ddiwrnod yr wythnos yn golygu fy mod yn osgoi cyfanswm o 3 awr mewn amser teithio yn unig. Mae gweithio gartref yn caniatáu i mi gynllunio fy ngwaith yn well, gan fy mod yn gallu canolbwyntio ar ysgrifennu adroddiadau, gweithio i amserlenni tyn a gwneud y darllen a'r ymchwil angenrheidiol i'm swydd benodol i. Yn y tymor hir, mae hyn yn cefnogi canlyniadau gwell. Ar derfyn y dydd, rwy'n teimlo dan lai o straen am fy mod wedi cael llonydd ac amser i feddwl.' (darllenwch yr astudiaeth achos llawn yma)
Mae aelodau ein tîm ni yn Chwarae Teg hefyd wedi gwella eu cydbwysedd gwaith-bywyd trwy nifer o fentrau. Mae mwy o wybodaeth yn adran ein haelodau [cysylltwch yma naill ai i aelodau fewngofnodi neu gallwch ymuno â ni os nad ydych yn aelod]
Pa fath o fanteision alla'i ddisgwyl?
Mae cyflogwyr wedi cymryd camau breision ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf, gan weithio gyda'u gweithwyr i ddatblygu polisïau cydbwysedd gwaith-bywyd sydd yn addas i bawb. Fel yr ased pwysicaf yn unrhyw sefydliad, dylech allu cael yr holl fanteision sydd i well cydbwysedd gwaith-bywyd, gan gynnwys:
- Gwell rheolaeth dros eich bywyd gwaith
- Llai o straen
- Gwell perthynas gyda'r rheolwyr
- Gwell hunan-barch, iechyd, canolbwyntio a hyder
- Amser i ymdrin â phroblemau sy'n codi yn y gwaith neu'r cartref
- Amser i gadw cydbwysedd rhwng bywyd y tu allan a bywyd mewn gwaith
- Teimlo'n well yn y gwaith a'r cartref
I wybod mwy am sut y gallai cydbwysedd gwaith-bywyd a gweithio hyblyg fod o fantais i chi, ewch at ein taflen Cwestiynau Cyffredin (CC).
Camau at Well Cydbwysedd: Ystyried y Dewisiadau
Mae cydbwysedd da yn golygu cyfuno llawer o elfennau - cyd-gordio, amseru ac amgylchedd, i enwi dim ond rhai. Yn yr un ffordd, mae amrywiaeth eang o ddewisiadau cydbwysedd gwaith-bywyd, sy'n ymdrin â gweithio hyblyg a phecynnau buddion eraill y mae modd eu cyfuno i gael y cydbwysedd iawn. Dyma rai yn unig:
|
Faint o amser y byddwn yn gweithio
|
Pryd y byddwn yn gweithio |
|
Llawn-amser |
Amser hyblyg |
|
Lle'r ydym yn gweithio |
Mentrau gofal plant |
|
Eiddo'r Cyflogwr Gartref O bell |
Talebau gofal plant |
|
Toriadau o'r Gwaith |
Mentrau eraill |
|
Absenoldeb blynyddol Amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus |
Rhaglen Cymorth Gweithiwr |
Trwy gyfuno elfennau'r strategaethau hyn, mae modd cynllunio pecynnau addas i'ch amgylchiadau chi. Does dim un ffordd iawn neu anghywir yn gweithio i chi. Mae'n bwysig gweithio gyda'ch cyflogwr i weld beth yw'r agwedd iawn i chi a'ch busnes.


