Sut y gall weithio i'ch busnes chi?

Darganfod Cydbwysedd Gwaith - Yr Achos Busnes

Y galw am Gydbwysedd Gwaith-Bywyd: Dod yn Gyflenwr Effeithiol

Cadw'r Llyfrau: Pam fod Arferion Hen-ffasiwn yn Ddrud i Chi

‘Dyw Un Maint Ddim yn Iawn i Bawb - Mentrau CGB Addas i'ch Anghenion Chi

Darganfod Cydbwysedd Gwaith - Yr Achos Busnes

Dylai gweithredu polisïau ac arferion cydbwysedd gwaith-bywyd yn eich sefydliad deimlo fel cyfle yn hytrach na her. Mae'n ffaith brofedig fod mwy a mwy o weithwyr yn dewis sefydliadau a all gynnig bywyd teg a gweithio hyblyg yn ychwanegol at y manteision mwy traddodiadol. Os bydd eich cwmni yn ymrwymo'n gadarnhaol i ddarparu polisïau cydbwysedd gwaith-bywyd, fe fyddwch yn denu ac yn cadw staff medrus, yn eich gwneud eich hun yn fwy cystadleuol ac yn ennill enw da fel cyflogwr.

Ymysg manteision eraill mae:

  • Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Gwell elw ar fuddsoddiad mewn costau hyfforddi
  • Uniaethu mwy â'r cwsmeriaid o ganlyniad i weithlu mwy amrywiol
  • Llai o absenoldeb, salwch a straen
  • Gwell cynhyrchedd a pherfformiad
  • Mwy o deyrngarwch a gwell ysbryd

Y galw am Gydbwysedd Gwaith-Bywyd: Dod yn Gyflenwr Effeithiol

Yn ôl WorkUK, mae 80% o weithwyr yn barod i roi'r gorau i'w swyddi presennol i chwilio am gyflogwyr all gynnig pecynnau gweithio hyblyg a chydbwysedd gwaith-bywyd da. Mae sefydliadau sydd wedi ymateb i'r galw am fwy o hyblygrwydd yn y gwaith yn elwa o hyn, gyda gweithlu sydd wedi ei symbylu'n well, dan lai o straen ac yn meddu ar well sgiliau na'u cystadleuwyr. Gwyr pob cwmni fod creu busnes proffidiol a chynaliadwy yn golygu ymaddasu i alwadau'r farchnad. Ar hyn o bryd, mae'r farchnad recriwtio yn llawn posibiliadau i gyflenwyr sy'n gallu meddwl yn flaengar.

Cadw'r Llyfrau: Pam fod Arferion Hen-ffasiwn yn Ddrud i Chi

Mae rheoli costau a chynyddu elw yn ganolog i waith unrhyw fusnes. Bydd datblygu polisïau o'r cychwyn a chyflwyno canlyniadau a fydd hefyd yn rhoi gwên ar wyneb y cyfarwyddwr cyllid yn gallu gwneud i weithredu mentrau cydbwysedd gwaith-bywyd ymddangos yn dipyn o dasg.

Dyma lle y gall Chwarae Teg helpu.

Mae cwmnïau y buom yn gweithio gyda hwy yn dweud dro ar ôl tro mai prif ganlyniad eu rhaglen CGB yw llai o absenoldeb a chadw staff (gweler ein hastudiaethau achos). Cyn iddynt drio rhai camau syml fel oriau gweithio hyblyg, yr oedd cost ymdrin â'r materion hyn yn fwy o lawer nag unrhyw wariant ar gynllun cydbwysedd gwaith-bywyd.

Ond i'r rhai ohonoch sydd eto i brofi manteision economaidd Cydbwysedd Gwaith-Bywyd, yr ydym wedi gweithio allan yn union faint mae'r dyddiau salwch hyn a throsiant staff cyflym yn ei gostio i'ch busnes.

‘Dyw Un Maint Ddim yn Iawn i Bawb - Mentrau CGB Addas i'ch Anghenion Chi

Pa bynnag sector yr ydych yn gweithio ynddo, a beth bynnag yw maint eich busnes, mae'r fenter cydbwysedd gwaith-bywyd iawn ar gael i ateb unrhyw ofynion. Mae Chwarae Teg yn falch o fod wedi cefnogi sefydliadau di-ri ar draws Cymru i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni cydbwysedd gwaith-bywyd cost-effeithiol a chynaliadwy. Mae ein profiad yn golygu y medrwch fod yn sicr y bydd ein gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori unswydd yn cynnig arbenigedd ymarferol a phrofedig fydd yn dangos y gorau o'ch busnes. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae llawer dewis o ran Cydbwysedd Gwaith-Bywyd, ac efallai eich bod eisoes yn cynnig rhai ohonynt:

  1.  Gweithio Hyblyg, gan gynnwys: 
    1. Faint o amser yr ydym yn ei weithio
    2. Lle'r ydym yn gweithio 
    3. Pryd y byddwn yn gweithio
  2. Toriadau o'r Gwaith, gan gynnwys: 
    1.  Absenoldeb Mamolaeth/Tadolaeth
    2. Absenoldeb rhiant 
    3. Absenoldeb tosturiol 
    4. Absenoldeb gwyliau 
    5. Cyfnodau sabothol 
    6. Absenoldeb mewn Oriau
  3. Darpariaeth Gofal Plant, gan gynnwys:
    1. Ffurfiol/anffurfiol
    2. Talebau Gofal Plant
    3. Lwfans Gofal Plant 
    4. Gwasanaeth wrth gefn mewn argyfwng (llefydd gwag, gwybodaeth)
    5. Cydlynydd Gofal Plant 
  4. Mentrau Eraill, gan gynnwys:
    1. Mentrau iechyd
    2. Mentrau dysgu ar y safle
    3. Cyngor ariannol annibynnol gan gynnwys pensiynau
    4. Ystafell aml-ffydd 
    5. Cyfleusterau arlwyo ar y safle 
    6. Aelodaeth Clwb Hamdden (am ddim neu ostyngol)
    7. Treuliau gofal teulu
    8. Rhwydweithiau
    9. Contractau Teulu