Gofal
-
Mae menywod gyda phlant dan 11 oed 45% yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig na dynion, gan gostio hyd at £23 biliwn i'r economi trwy fethu â chyflogi menywod sydd yn aml wedi eu haddysgu i safon uchel (Adolygiad Cydraddoldebau'r DU 2007)
- Cost nodweddiadol lle llawn-amser gyda gofalwr plant i blentyn dan ddwyflwydd oed yn Lloegr yw £144 yr wythnos ac yn yr Alban £139 yr wythnos, dros £7,200 y flwyddyn. Y gost nodweddiadol yng Nghymru yw £153 yr wythnos.(Yr Ymddiriedolaeth Gofal Dydd, Arolwg Costau Gofal Plant 2008)
- Mae 82,000 o ddynion a 470,000 o fenywod yn gofalu am y cartref neu'r teulu yn llawn-amser a hefyd yn ofalwyr (Carers UK, We Care - Do You?,2005)
- Y golled enillion ar gyfartaledd llynedd gan ofalwyr y bu'n rhaid iddynt roi'r gorau i'w swydd, gostwng eu horiau neu gymryd safle is er mwyn gofalu am berthnasau neu gymar sâl, llesg neu anabl oedd £11,050 (Carers UK, Out of Pocket, 2007)


