Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
-
Rhiant sengl yw penteulu un o bob pedwar o deuluoedd. Mae 90% o rieni sengl yn famau. Mae bron i hanner (49%) teuluoedd un-rhiant yn byw mewn tlodi, mwy na dwywaith cyfran unrhyw fath arall o deulu, gan gynnwys pensiynwyr. (Teuluoedd Un Rhiant/Arolwg Blynyddol/ Gingerbread 2006/07)
- Mae gan 30% o fenywod incwm o lai na £100 yr wythnos, o'i gymharu â 14% o ddynion (TUC, The Iron Triangle 2008)
- Ar gyfartaledd, mae mwy o ddynion na menywod yn aelodau cabinet llywodraethau'r UE o dri i un (24% menywod, 76% dynion) (Comisiwn Ewropeaidd, Menywod a Dynion yn gwneud penderfyniadau 2007)
- I fenywod sy'n gweithio yng Nghymru, mae' enillion fesul awr ar gyfartaledd yn dal 12% yn is nag i ddynion ac mae'r ffigwr hwn yn codi i 31.2% ar gyfer gwaith rhan-amser (CCC, Ffeithiau am Ddynion a Menywod yng Nghymru, 2006)
- Yr oedd bron i 25% o fenywod a wnaeth gais i dribiwnlys cyflogaeth wedi eu diswyddo o fewn oriau o ddweud wrth eu cyflogwr eu bod yn feichiog a chafodd un o bob pump o fenywod a ddychwelodd o absenoldeb mamolaeth swyddi ar raddfa is. (CCC, Pregnancy Discrimination at Work, 2004)
- Menywod yw 66% o bensiynwyr sy'n byw ar eu pennau eu hunain ac y mae eu hincwm yn 57% yn unig o incwm pensiynwyr gwryw (CCC, Agenda'r Rhywiau - Arolwg Cymru 2006)


