Menter

  • Yng Nghymru, y Cyfanswm Gweithgaredd Entrepreneuraidd Cam Cynnar (CGE) i ddynion yw 7.2% tra i fenywod mae'n 3.4%. Mae hyn yn golygu gostyngiad bychan i fenywod ers 2006 (lle roedd y CGE yn 3.7%) ac felly yn lledaenu'r bwlch rhwng graddfa CGE dynion a menywod yng Nghymru. (Global Entrepreneurship Monitor, 2007)
  • Roedd y mwyafrif helaeth o gyflogwyr cwmniau bach a chanolig yn cael eu harwain gan ddynion; dimond 14% ohonynt oedd yn cael eu harwain gan fenywod neu gan dîm rheoli a oedd yn fwyafrif benywaidd (BERR - Arolwg Blynyddol Busnesau Bach 2006)
  • Mae mentergarwch menywod yn cyfrannu tua 60 biliwn y flwyddyn i'r gwerth gros sy'n cael ei ychwanegu i economi y DU. (Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth)
  • Mae menywod hanner mor debygol a dynion o fod yn gysylltiedig ag entrepreneuriaeth yn y camau cyntaf o gychwyn busnes. Mae hyn yn syrthio i 28% o entrepreneuriaeth gwrywaidd ar gyfer busnesau sydd wedi eu sefydlu. (Global Entrepreneurship Monitor UK 2006)
  • Mae hyfforddiant menter sy'n gael ei gyllido'n gyhoeddus yn treblu tebygolrwydd menyw i ddechrau busnes. (GEM UK 2006, Entrepreneuriaeth yn Gosod yr Agenda Ddatblygu)
  • Mae cwmniau gyda 30% o fenywod mewn swyddi uchel yn fwy tebygol o gael diwylliant lle mae menywod yn ffynnu. (Ysbrydoli Menywod: Arfer gorau corfforaethol yn Ewrop, Canolfan i Fenywod mewn Busnes y Brodyr Lehman, Ysgol Fusnes Llundain)
  • Mae darogan bydd mwy o filiwnyddion benywaidd na miliwnyddion gwrywaidd ym Mhrydain erbyn 2020. (Dealltwriaeth Cyfoeth Barclays, Cwestiwn o Ryw, Cyfoeth Barclays)