Trafodaethau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Chwarae Teg
Nodiadau Hwylusydd
Cyflwyniad
Mae gan yr hwylusydd mewn unrhyw drafodaeth nifer o rolau pwysig i’w hymgymryd, pob un ohonynt yn helpu i wneud y drafodaeth yn un lwyddiannus.
Engraifft o Drafodaeth:
Tudalen we - Lawrlwytho Dogfen Word - Lawrlwytho Dogfen Acrobat PDF
Mae’r rolau hyn yn cynnwys:
- Cadw y drafodaeth i redeg ar amser
- Gwneud pawb i deimlo’n gysurus
- Sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud
- Dim gadael i un unigolyn gymryd y drafodaeth drosodd
- Sicrhau fod y drafodaeth yn glynu wrth y pwnc
- Crynhoi datganiad cytûn ar bob pwnc
- Cael cytundeb y grŵp ar y datganiadau cytûn
Nod y ddogfen yma yw i gefnogi unrhyw un a fydd yn hwyluso trafodaeth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Chwarae Teg a rhoi arweiniad ar beth yw anghenion y rôl a sut i fod yn hwylusydd effeithiol.
Mae’r nodiadau yma yn seiliedig ar engraifft o amserlen ar gyfer trafodaeth o’r dechrau i’r diwedd, ac er mwyn helpu i ddangos rôl yr hwylusydd mae engraifft o sgriptiau wedi cael eu darparu. Peidiwch â theimlo dyletswydd i ddefnyddio'r rhain, maent wedi eu cynnwys i roi syniad i chi o’r mathau o bethau mae’n rhaid i chi fel hwylusydd ddweud ar bwyntiau penodol o fewn eich trafodaeth.

