Polisi da yn ysbrydoli arferion gwaith gwych
Mae polisi ac ymchwil, i Chwarae Teg, yn golygu canfod atebion ym maes yr economi ac ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y maes hwnnw. Mae gennym hanes cydnabyddedig o ddarparu polisi ac ymchwil arloesol i gefnogi amcanion Chwarae Teg, ein mudiadau partner a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae ein cyngor arbenigol yn helpu'r broses o lunio penderfyniadau ac yn ysbrydoli arferion gwaith mwy effeithiol mewn ystod o feysydd polisi, gan gynnwys:
- Cydbwyso bywyd a gwaith a gweithio hyblyg
- Cydraddoldeb rhwng y ddau ryw
- Menter
- Gofal
- Addysg, dysgu a sgiliau
Yma, gallwch weld copïau o'n hymatebion i ymgynghoriadau a dolenni at gyhoeddiadau allanol defnyddiol.
Gweithio ynghyd
Cyfathrebu llwyddiannus a rhannu arbenigedd yw'r allwedd i sicrhau bod ein hymchwil yn parhau'n ddeinamig ac effeithiol. Anogir ein holl aelodau a chyfranogwyr mewn prosiectau i gyfrannu'n weithredol at ein gwaith ymchwil a'n prosesau creu polisïau. Os hoffech chi wybod mwy, neu archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil bellach, cysylltwch â ni yn post@chwaraeteg.com

