Llwyddiant Chwarae Teg yn datblygu ac yn rheoli prosiectau

Mae Chwarae Teg wedi datblygu a darparu ystod amrywiol iawn o brosiectau ers ei sefydlu ym 1992, gan archwilio a gloywi arferion gorau ym maes menter menywod, cydraddoldeb ac amrywiaeth, SET, mentrau gofal plant, cydbwyso bywyd a gwaith a gweithio hyblyg.

Mae ein gwaith prosiect bob amser yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol, a'r gwaith hwn a greodd ddiwylliant datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, gan ysgogi miloedd o bobl o bob math o wahanol gefndiroedd i gyflawni eu llawn botensial. Mae ymroddiad ac ysgogiad staff ein prosiectau wedi helpu Chwarae Teg i ennill gwobrau lu, ac rydym yn adeiladu ar seiliau cadarn ein llwyddiannau drwy ddatblygu prosiectau newydd, cyffrous sy'n mynd i'r afael â'r materion sydd fwyaf perthnasol i'n cymdeithas heddiw.

Yma, gwelwch grynodebau byr o'n gwaith prosiect yn y gorffennol a'r gwaith sydd yn yr arfaeth, gan gynnwys adnoddau ac astudiaethau achos. Dewiswch o blith y rhestr ar y chwith i ganfod mwy.

Gweithio ynghyd

Ni fyddai ein llwyddiant yn bosibl heb bartneriaethau ysbrydoledig â mudiadau o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi wybod mwy am weithio gyda Chwarae Teg, cysylltwch â ni ar 029 2047 8900 neu anfonwch ebost atom yn post@chwaraeteg.com