readySETgo

Ariannwyd y prosiect readySETgo yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru/ESF/Gyrfa Cymru ac fe'i darparwyd rhwng 2004 a 2007 i annog mwy o fenywod i ystyried cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth mewn meysydd anhraddodiadol drwy gyfrwng cyrsiau blasu byr a sesiynau datblygu personol.  Roedd y prosiect yn delio â menywod a oedd yn aml yn anodd eu cyrraedd ac yn economaidd anweithgar, a phrofodd yn gatalydd dros newid.  Bu'r prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i gyflogwyr, gan lunio achos busnes dros weithlu mwy amrywiol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch materion yn ymwneud â stereoteipio yn ôl rhyw gydag athrawon, cynghorwyr gyrfa ac addysgwyr. Manteisiodd dros 300 o fenywod, 45 o gyflogwyr a 110 o addysgwyr ar y prosiect.

Balance Newsletter readySETgo

Astudiaethau Achos 1  Angela yn saernio gyrfa newydd mewn gwaith coed

Astudiaethau Achos 2  Cwrs arloesol yn Abertawe yn helpu mam i diwnio i waith newydd