Prosiect Cydraddoldeb BBCh
Bu Chwarae Teg yn rheoli ac yn darparu'r prosiect Cydraddoldeb BBCh rhwng 1999 a 2004. Roedd y prosiect yn gweithio gyda busnesau ledled Cymru i hyrwyddo'r manteision yr oedd cyfle cyfartal yn eu cynnig i fusnes. Roedd gan y prosiect dîm o gynghorwyr busnes profiadol a oedd yn helpu cwmnïau i ddatblygu gweithlu amrywiol a chynhyrchiol a chwalu'r rhwystrau cyflogaeth y mae grwpiau allgaeedig yn gallu eu hwynebu. Ymatebodd y cynghorwyr i anghenion penodol cwmnïau unigol, gan ddatblygu pecynnau cefnogaeth wedi'u teilwra'n arbennig o fewn fframwaith cydraddoldeb. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb ym maes rhyw, hil ac anabledd, er ei fod hefyd yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu agwedd gadarnhaol tuag at gyfeiriadedd rhywiol, oed, maint a dosbarth cymdeithasol yn y gweithle. Gymaint fu llwyddiant y prosiect nes iddo gael ei ddwyn i brif ffrwd Awdurdod Datblygu Cymru, ac mae'n dal i weithio gyda busnesau ledled Cymru.

