Trafodaethau Chwarae Teg - Cysylltu gyda Menywod yng Nghymru
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2010...
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, cynhaliodd Chwarae Teg dair trafodaeth i ddarganfod beth mae menywod yng Nghymru yn ei feddwl o'r materion yn ymwneud â chydraddoldeb a'r economi.
Cynhaliwyd trafodaethau mewn tri lleoliad ar draws Cymru, Caerdydd, Castell Newydd Emlyn a Bae Colwyn - rhwng dydd Mawrth 9 Mawrth a dydd Iau 11 Mawrth. Daeth cynrychiolyddion o ystod eang o sefydliadau at ei gilydd ac fe drafododd pob grwp y pynciau canlynol:
- Menywod - Gwario'n helaeth, ennill yn isel. Pa rôl y mae menywod yn ei chwarae yn yr economi?
- Lle mae'r Gofal mewn Gyrfa? Rôl menywod fel gofalwyr heddiw yn ogystal â'r dyfodol
Mae canlyniad pob trafodaeth bellach ar gael i'w gweld ar lein. Cliciwch yma i weld y Datganiadau Cytûn gan ein cynrychiolyddion yn Ne Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru.
Diolch i bawb a gymerodd ran i wneud y trafodaethau hyn yn rhai llwyddiannus dros ben
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn yr wythnosau i ddod, bydd Chwarae Teg yn cynhyrchu adroddiad yn cyfuno darganfyddiadau'r holl drafodaethau mewn un dogfen gynhwysfawr. I dderbyn hysbysiad o pryd fydd yr adroddiad hwn ar gael ar gyfer lawr lwytho ar lein e-bostiwch john.jackson@chwaraeteg.com
Eisiau bod yn gysylltiedig?
Dweud eich Dweud a Chynnal eich Trafodaeth eich Hun
Mae cysylltu gyda menywod ac archwilio'r materion allweddol yn ganolog i waith Chwarae Teg. Mae ein polisi a'n ymchwil bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth ymarferol ac yn cael ei siapio gan farnau menywod go iawn, sy'n byw a gweithio yng Nghymru.
I fedru cynorthwyo menywod ar draws Cymru a rhoi'r cyfle iddynt ymuno yn y drafodaeth, rydym wedi paratoi canllawiau i redeg eich trafodaeth eich hunan a gallwch edrych arno trwy glicio yma. Trwy gynnal trafodaeth byddwch yn cynorthwyo i siapio dyfodol ein gwaith a helpu i sicrhau fod menywod yn cael y cyfle i gael mewnbwn wrth ddatblygu'r agenda ar gyfer materion menywod yng Nghymru.
Diwrnod Rhyngwladol Menywod Adroddiad 2010
Darllenwch adroddiad electronig Diwrnod Rhyngwladol Menywod, yma.

