Cyflwyniad

Croeso i wasanaethau hyfforddi ac ymgynghori Chwarae Teg.

Rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau sy'n ffocysu ar greu a chyflawni datrysiadau arloesol yn y gweithle.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg
  • Cydbwyso Bywyd a Gwaith
  • Cydraddoldeb
  • Amrywioldeb
  • Cefnogaeth i fenywod sy'n dychwelyd i'r gwaith

Gyda dros 17 mlynedd o brofiad gallwn eich helpu i gyflwyno arferion newydd o weithio i mewn i'ch sefydliad yn effeithiol ac yn broffidiol.   Fel arbenigwyr mewn datrys problemau yn y gweithle mewn modd arloesol, mae Chwarae Teg yn cynnig gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori diduedd i fusnesau a sefydliadau ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Wrth gael ei weithredu'n effeithiol gall datrys problemau yn y gweithle gynnig ystod o fuddion gan gynnwys: 

  • Gwelliant mewn recriwtio a chadw staff
  • Lleihau lefelau o absenoliaeth
  • Cynyddu mynediad i weithlu mwy sgiliedig ac amrywiol
  • Cynyddu moral a chynhyrchiant staff
  • Proffil cryfach mewn marchnad lafur cystadleuol fel ‘Cyflogwr o Ddewis'
  • Lleihau costau adeilad a chostau cyffredinol - sy'n lleihau eich ôl troed carbon

Mae hyn i gyd yn mynd tuag at helpu i wella effeithiolrwydd a phroffidioldeb eich busnes.

Gyda chefnogaeth gan Chwarae Teg gallwn adnabod pa ddatrysiadau fydd mwyaf addas i chi yn eich gweithle ac yna datblygu cynllun realistig i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni mewn modd amserol ac addas.  O brofiad, rydym hefyd yn deall yn llwyr y sensitifrwydd sy'n gysylltiedig pan fod newidiadau yn cael eu gwneud yn y gweithle. Gall ein tîm o ymgynghorwyr arbenigol eich cefnogi chi trwy'r broses yn gyfan gwbl, o ddatblygu'r polisïau gorau posib ar eich cyfer, i sicrhau eu heffeithiolrwydd ar draws eich gweithlu.

Gan nad oes gan unrhyw ddau glient yr un anghenion mae ein holl ddatrysiadau wedi eu teilwro, yn seiliedig ar gyflawni'r hyn yr ydych chi ei angen, pryd yr ydych ei angen.  Os dymunwch gael trafodaeth heb ymrwymiad rhad ac am ddim i weld sut gall Chwarae Teg eich helpu yna rhowch alwad i ni.