Tystiolaethol Staff

Beth mae’n staff presennol yn meddwl ohonom...

Katie Cole, Uwch Swyddog Prosiect – De Ddwyrain Cymru

"Ymunais â Chwarae Teg fel Uwch Swyddog Prosiect ar gyfer tîm De Ddwyrain Cymru ym mis Mai 2009.  Dychwelais o gyfnod mamolaeth i’n swydd flaenorol ym mis Mawrth, felly mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn newid mawr i mi!  Yn yr amser byr ers ymuno â Chwarae Teg, rwyf eisoes wedi cael budd o newid mawr yn fy nghydbwyso bywyd a gwaith fy hun.

Fel cyflogwr, mae Chwarae Teg yn cydnabod fod gan ei staff ymrwymiadau y tu allan i’r gwaith, ac yn fy nghefnogi fi i ddarganfod y patrwm gorau o weithio ar gyfer fy hun a’r busnes.  Rwy’n cael y sefydliad yn un sydd â meddylfryd blaengar, yn le ffres, cyffrous a chroesawgar i weithio  gyda phawb yn cael eu trin yn gyfartal.

Bydd fy rôl yn cynnwys creu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr ac yn fwyaf cyffrous, yn helpu menywod i symud ymlaen yn y gweithle trwy hyfforddiant a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu diolch i brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg."

Jan Every, Gweinyddydd Prosiect Rhanbarthol, De Orllewin Cymru – Cenedl Hyblyg

"Mae gan Chwarae Teg ddiwylliant cydbwyso bywyd a gwaith rhagorol, ac yn ceisio cynnwys y rhan fwyaf o faterion sy’n medru codi trwy fywyd teulu yn galluogi’r unigolyn i ddod o hyd i batrwm gwaith sy’n eu siwtio hwy yn ogystal â Chwarae Teg.  Ni cheir taliad am yr oriau goramser ond yn hytrach ceir amser ffwrdd yn eu lle.  Rwy’n gweld hwn yn ffordd wych o weithio achos os yr ydych wedi gweithio oriau ychwanegol yna fe fedrwch gasglu'r rhain a’i defnyddio pan fod angen gyda chaniatâd y rheolydd llinell.

Ceir digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu o fewn y sefydliad, ac rydych yn gyson yn dysgu pethau newydd bob diwrnod.  Er nad wyf wedi bod gyda Chwarae Teg ond am 5 mis, rwy’n mwynhau pob munud.  Mae’n amser cyffrous ac rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i weithio gyda Chwarae Teg yn enwedig o fewn y prosiect newydd Cenedl Hyblyg".