Clybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol

Cyflwynwyd y Grant Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol, am y tro cyntaf, ym 1993 gan y Cynghorau Hyfforddiant a Menter (TEC) fel cynllun arian sefydlu i wella ansawdd a nifer y llefydd gofal plant oedd ar gael y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol. Bu Gweithwyr Datblygu'n gweithio gyda phwyllgorau gwirfoddol i ddatblygu clybiau a dyrannu grantiau. Bu'r TECs yn cydweithio'n glos â Chwarae Teg a'r Rhwydwaith Clybiau Plant tan i'r cynllun ddirwyn i ben ym mis Mawrth 1999. Gyda dyfodiad y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofal Plant yng Nghymru (dogfen ymgynghorol Mehefin 1998) a sefydlu'r Gronfa Cyfleoedd Newydd (NOF) ym 1998, daeth Clybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol yn rhan o'r patrymau lleol o ofal plant a oedd yn datblygu yn y rownd a gynlluniwyd ar ei chyfer ac a gefnogwyd gan 22 o bartneriaethau Datblygiad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (EYDCP) yng Nghymru. O Ebrill 1999 ymlaen, rheolwyd gan Chwarae Teg, ac roedd eu cylch gorchwyl yn cynnwys - darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i Glybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol presennol; datblygu rhwydweithiau cefnogi; gweithio gyda grwpiau a oedd yn awyddus i sefydlu Clybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol; cefnogi'r gwaith o roi ceisiadau am gyllid at ei gilydd; marchnata a chynllunio busnes; hwyluso rhaglen hyfforddi ar gyfer clybiau newydd a chlybiau presennol. Gymaint fu llwyddiant y cynllun nes i Glybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol sefydlu eu hunain yn fudiad annibynnol ddiwedd 2001, ac fe'i bedyddiwyd yn Glybiau Plant Cymru.

Cynllun ar gyfer plant dan 5 oed

Lansiwyd Cynllun plant dan 5 oed y Swyddfa Gymreig ym 1995, ac fe'i rheolwyd gan Glybiau Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol am bedair blynedd, yn sgîl canfyddiadau archwiliad o ofal plant, a dynnodd sylw at y ffaith bod diffyg gofal plant yn rhwystr sylweddol i rieni yng Nghymru sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith neu symud ymlaen i addysg bellach. Cafodd y cynllun cymorth grant hwn effaith arwyddocaol, gan greu 28 prosiect enghreifftiol a leolwyd ledled Cymru, a esgorodd ar dros 1,000 o lefydd ar gyfer plant, a chreu dros 150 o swyddi yn y sector gofal plant. Roedd y prosiectau enghreifftiol a gefnogwyd yn cynnwys - 10 meithrinfa breifat, 3 meithrinfa a oedd yn gysylltiedig â choleg, 7 busnes cymunedol, 1 canolfan ar gyfer plant ag anableddau a'u teuluoedd a 7 meithrinfa ddydd mewn gweithle.