Beth yw Gweithio Hyblyg?

Mae llawer ffurf ar weithio hyblyg, sy'n edrych ar Sut, Pryd a Lle y byddwn yn gweithio, ac y mae'n rhan o'r dewisiadau sydd ar gael i gyflogwyr a gweithwyr wrth adolygu Cydbwysedd Gwaith-Bywyd.

Dylai'r gwahanol strategaethau/polisïau gael eu datblygu i gwrdd ag anghenion busnesau a'r gweithiwr, gan ystyried pryd y mae'n rhaid i'r busnes gyflwyno'r cynnyrch a'r canlyniadau, ac anghenion y gweithiwr, er mwyn cydbwyso cyfrifoldebau gwaith a chartref yn effeithiol.

Mae llawer o gyflogwyr wedi gweld fod cyflwyno dewisiadau hyblyg wedi codi lefelau cynhyrchedd, wedi helpu i gadw staff, arbed ar gostau lle a'u gwneud yn gyflogwr mwy deniadol, gan eu galluogi i ddenu'r doniau gorau sydd ar gael. Os caiff arferion gweithio hyblyg eu gweithredu'n iawn, mae angen newid ffordd o feddwl o bresenoldeb i gynnyrch: canlyniadau seiliedig ar yr hyn mae gweithwyr yn ei wneud i gwsmeriaid, yn hytrach na dim ond oriau gwaith.

Faint o amser y byddwn yn gweithio

Mae modd asesu swyddi i bennu gofynion y busnes a gallu'r gweithiwr; nid oes angen i bob swydd fod yn llawn-amser na chael eu gwneud gan un person. Dyma rai dewisiadau creadigol;

  • Llawn-Amser/ Rhan-Amser
  • Rhannu Swydd
  • Rhan o flwyddyn
  • Adeg tymor/gwyliau ysgol
  • Goramser/TOIL

Pryd y byddwn yn gweithio

Mae asesu pryd y byddwn yn gweithio a datblygu agwedd hyblyg at y diwrnod gwaith yn cydnabod anghenion newidiol y gweithiwr, y pwysau sydd arnynt i gadw'r ddysgl yn wastad yn y gwaith a thu allan, ac y mae'n canolbwyntio ar y canlyniadau y mae ar fusnesau eu hangen yn hytrach na'r amser sydd yn cael ei dreulio yn y gwaith. Mae hefyd yn galluogi busnesau i gyrraedd marchnad ehangach o weithwyr a denu gweithwyr na all, am amrywiol resymau, weithio diwrnod 9-5 traddodiadol.

Dyma rai o'r dewisiadau;

  • Cynllun oriau hyblyg
  • Oriau cywasgedig
  • Oriau Wedi eu Blynyddu
  • Shifftiau
  • Oriau Ychwanegol
  • Ffeirio Shifftiau
  • Hunan-Restru
  • Amser G
  • Ymddeol Hyblyg

Lle'r ydym yn gweithio

Mae datblygiadau ym maes technoleg a band llydan yn golygu y gall llawer o bobl weithio o unrhyw le erbyn hyn. Trwy adolygu lleoliad y swydd a lle y gall gweithwyr weithio, mae modd gwneud i ffwrdd â'r angen i deithio, gan eu gwneud yn fwy cynhyrchiol, yn hapusach a dan lai o straen, yn enwedig os oes ganddynt ymrwymiadau teulu. Trwy gyflwyno dewisiadau o weithio o gartref neu o bell, cafwyd effaith sylweddol ar dagfeydd traffig a chludiant cyhoeddus, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd mawr, gan gyfrannu effaith gadarnhaol ar leihau niwed i'r amgylchedd ac arbed ar gostau lle.

Dyma rai o'r dewisiadau:

  • Eiddo'r Cyflogwr
  • Gartref
  • O bell