Beth yw Cydbwysedd Gwaith-Bywyd?

Mae diwylliant cydbwysedd gwaith-bywyd da yn creu gweithwyr sydd eisiau gweithio. Mae cydbwysedd gwaith-bywyd yn adlewyrchu esblygiad cyson ein hamgylchedd gwaith modern, ac yn cydnabod anghenion ac ymrwymiadau cyflogwyr, gweithwyr a chwsmeriaid fel y norm cymdeithasol.

Rhaid i gyflogwyr fonitro cost ac elw a rheoli eu cyfrifoldeb tuag at weithwyr

Mae gan weithwyr wahanol ymrwymiadau a gwahanol ofynion ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd.

Mae cwsmeriaid yn gwobrwyo sefydliadau sydd yn rhoi gwasanaeth dibynadwy o safon

Mae Chwarae Teg yn helpu pob busnes i sylweddoli manteision dod o hyd i ffyrdd o roi mwy o le i arferion cydbwysedd gwaith-bywyd i'w gweithwyr

Mentrau Cydbwysedd Gwaith-Bywyd

Mae Cydbwysedd Gwaith-Bywyd yn golygu ystod eang o fentrau ac agweddau y mae modd eu teilwrio ar gyfer sefydliadau o bob maint, o'r sector cyhoeddus a chyflogwyr mawr amlwladol i BBaCh a'r hunangyflogedig:

  • Gweithio Hyblyg
  • Gofal plant
  • Toriadau o'r Gwaith
  • Mentrau eraill e.e. rhaglenni cynorthwyo gweithwyr, rheoli straen, ayb