Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni Unigol
Rhwng 2001 a 2006, darparwyd y mentrau arobryn Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni Unigol gan Chwarae Teg (fel rhan o'r Prosiect Potentia), ac ariannwyd y ddau brosiect gan yr Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) gynt. Bu'r prosiect yn ymwneud â dros 2,500 o fenywod a rhieni unigol, gan ddarparu gweithdai, sesiynau cwnsela a chyfleoedd rhwydweithio ledled Cymru i alluogi iddynt gymryd y camau cyntaf tuag at ddechrau eu busnes eu hunain.
Gwobrau Menter Menywod Cymru
Gwobr Flaenllaw Prowess 2005
Mae'r Gwobrau Blaenllaw yn safon o arferion gorau am ragoriaeth ym maes datblygu menter ymhlith menywod. Yn 2005, Chwarae Teg oedd y mudiad cyntaf yng Nghymru i ennill statws Blaenllaw gan Prowess, yn gydnabyddiaeth am y safon gyson uchel o wasanaethau a ddarparwyd gennym i fenywod a oedd yn bwriadu dechrau a meithrin busnesau ledled y wlad.
Gwobr Ymwybyddiaeth Cyfryngau Prowess 2006
Ym mhob agwedd ar brosiect Menter Menywod Cymru, bu Chwarae Teg yn gweithio'n ddiflino i gysylltu ag entrepreneuriaid benywaidd uchelgeisiol o bob rhan o Gymru. Diolch i lwyddiant ein hymgyrchoedd yn y cyfryngau, derbyniodd dros 700 o fenywod y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt i droi eu breuddwyd o sefydlu busnes yn realiti. Cydnabuwyd y llwyddiant aruthrol hwn ym mis Chwefror 2006, pan ddaeth Chwarae Teg y mudiad cyntaf erioed yng Nghymru i ennill y Wobr Ymwybyddiaeth Cyfryngau gan Prowess.
Rhestrir isod holl adnoddau'r prosiect:
Gwella Mynediaid Merched At Gyllid (2006)
Menywod yn Cychwyn Busnesau (2006)
Astudiaethau Achos 1 Cychwyn Newydd - Dvanan Mynd Ar lein
Astudiaethau Achos 2 Gyrfa Newydd yn Cyfrif i Famau

