Cydbwysedd Gwaith-Bywyd yng Nghymru
Mae gan Chwarae Teg dros 7 mlynedd o brofiad o gydbwysedd gwaith a bywyd a gweithio hyblyg, fel ymarferwyr ac ar lefel polisi, ar draws pob sector a busnes yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Chwarae Teg yn cyflwyno rhaglen Cydbwysedd Gwaith-Bywyd ledled Cymru, gan hyrwyddo gweithio hyblyg. Mae'r gwaith ar y gweill a'r flaenoriaeth yw sefydlu Cymru fel economi fodern sy'n seiliedig ar weithio hyblyg ac arferion cydbwyso gwaith a bywyd.
Mae cydbwyso gwaith a bywyd yn ategu gwerthoedd craidd y Cynulliad o hybu cynhwysedd cymdeithasol, cydraddoldeb cyfle a datblygu economaidd pobl Cymru, a helpu i gynyddu cyfraddau gweithgaredd economaidd, gan ein cynorthwyo i gwrdd â thargedau cyflogaeth a GDP.
Gweithredwyd pecyn o fesurau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ers 2000 gan gynnwys:
- cynghori a chyfarwyddo cyflogwyr a gweithwyr Cymru ar faterion cydbwysedd gwaith-bywyd
- codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd
- cefnogi prosiect peilot 3 blynedd gydag elfennau wedi eu targedu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda'r gwerthuso wedi ei gwblhau ym Medi 2005.
"Mae'r Fenter Cydbwysedd Gwaith-Bywyd yn ategu gwerthoedd craidd y Cynulliad Cenedlaethol o hybu cynhwysedd cymdeithasol, cydraddoldeb cyfle a datblygu economaidd pobl Cymru - ac yr wyf yn croesawu ac yn cymeradwyo hyn.
Credaf na fedrwch ond ennill gyda Chydbwysedd Gwaith-Bywyd. Gall arferion cyflogi hyblyg helpu tuag at economi well a mwy cystadleuol, a gwella ansawdd bywyd.
Mae'r Cynulliad yn awyddus i weithio gyda phartneriaid ym mhob sector i yrru'r Fenter Cydbwysedd Gwaith-Bywyd ymlaen. Rwy'n annog pob cyflogwr i chwarae eu rhan mewn gwireddu Cydbwysedd Gwaith-Bywyd".
Jane Davidson AC
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes


