Cydbwyso Bywyd a Gwaith a Gweithio Hyblyg: gwneud iddo weithio i chi
Mae byd gwaith yn newid o hyd. Wrth i'r farchnad lafur ail-strwythuro i gwrdd â gofynion bywyd gwaith yn yr unfed ganrif ar hugain, mae cyflogeion yn prysur ddatblygu i fod yr ased mwyaf gwerthfawr mewn unrhyw sefydliad. Mae cyflogwyr arloesol eisoes yn sylweddoli bod creu gwell cydbwysedd ar gyfer eu gweithle yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol amlwg i'w busnesau. Yn gyflogwr neu'n gyflogai, mae cydbwyso bywyd a gwaith o fantais i bawb.
Yn dda i fusnes...
Yn y flwyddyn 2003, arbedodd BT y swm anhygoel o £3 miliwn ar gostau recriwtio drwy eu cynlluniau cydbwyso bywyd a gwaith, gan annog 98% o weithwyr a oedd yn fenywod i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth. Yma yng Nghymru. Fe wellodd Tai Esgyn, sy'n elusen gofrestredig, eu cynhyrchiant ar gyfer ei tîm bychan trwy gymryd cyfres o gamau syml wedi eu cynllunio i hybu amgylchedd cydbwyso bywyd a gwaith iach. Ni allai'r athroniaeth y tu ôl i'r strategaeth fusnes rad hon fod yn symlach: ‘mae pobl sy'n hoffi'r hyn y maent yn ei wneud, yn ei wneud yn well.'
Darllen astudiaethau achos llawn
... gwych i weithwyr
Ar er bod cyllideb busnes yn sicr o gael hwb yn sgîl cynlluniau fel y rhain, mae cyflogeion unigol yn cael eu gwobrwyo hefyd gyda'r cyfle i gyfuno gofynion eu bywyd cartref a'u bywyd gwaith, gan greu perthynas gref ac ymroddedig gyda'u mudiad.


